Y DYNIAETHAU
Addysg Grefyddol
Mae Addysg Grefyddol yn ...
-
Annog dysgwyr i archwilio cwestiynau athronyddol, crefyddol, moesegol, ac ysbrydol sy’n ysgogi cwestiynu a dadl.
-
Cynnwys ymagwedd agored, gwrthrychol ac archwiliadol.
-
Gofyn cwestiynau sylfaenol am ystyr a phwrpas bywyd ac arwyddocâd ac effaith crefydd ar gymdeithas yn y ganrif hon.
-
Chwilio am ystyr I fywyd gan helpu disgyblion i wneud synnwyr ohonynt eu hunain ac o’r byd y meant yn byw ynddo.
-
Dysgu a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o Gristnogaeth, ac o’r prif grefyddau eraill sydd i’w cael yn lleol a chenedlaethol.
-
Dysgu a datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth credoau anghrefyddol feld yn eiddiaeth.
-
Datblygu parch, sensitifrwydd ac empathi gyda’r rhai sydd efo credoau a safbwyntiau gwahanol.
-
Rhoi’rcyfle I ddeall mwy am y byd, yr heriau crefyddol sy’n ei wynebu a’u lle yn y byd.
-
Dysgu am destunau trwy ffilm, arteffactau ac ymweliadau.
-
Ffurfio a datblygu dadleuon.
Daearyddiaeth
Mae Daearyddiaeth yn bwnc sydd yn meddu'r gallu a’r wybodaeth i edrych ar broblemau daearyddol yn wrthrychol a diduedd. Mae’n bwnc sy’n edrych ar elfennau’r ddaear a’u perthnasedd i fywyd pobl o bob safbwynt rhesymol, heb ffafrio un safbwynt yn fwy na’r llall.
Mae Daearyddiaeth yn galluogi i chi....
-
Wneud ymchwiliadau yn dilyn y dull ymchwiliol.
-
Ddysgu trwy waith maes.
-
Gasglu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth.
-
Drafod gwybodaeth a gyflwynir
-
Ddatblygu sgiliau allweddol rhifedd, llythrennedd a TG o fewn ymchwiliad.
-
Ddefnyddio amrediad o sgiliau, yn cynnwys medrau meddwl.
Hanes
Rydym yn astudio Hanes er mwyn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o'r byd y maent yn byw ynddi. Mae hyn yn cynnwys: -
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am y gorffennol.
-
Annog meddwl ymholi.
-
Ymwybyddiaeth o gronoleg.
-
Astudio a gwerthuso gwahanol fathau o ffynonellau er mwyn datblygu medrau meddwl beirniadol.
-
Datblygu dealltwriaeth o achos ac effaith digwyddiadau hanesyddol.
-
Annog dehongli a sgiliau dadansoddi mewn safbwyntiau holi.
-
Ffurfio barn yn seiliedig ar ffeithiau.