IEITHOEDD, LLYTHRENNEDD A CHYFATHREBU
Cymraeg
Pam fod Cymraeg yn bwysig?
-
Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o Fyd Ysgol i’r Byd o’n Cwmpas gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg.
-
Ein nod yw ceisio sicrhau mwynhad o astudio’r pwnc a hybu ymwybyddiaeth fod y Gymraeg yn bwysig a pherthnasol, ei bod yn rhan naturiol o’n bywydau ni ac y dylid ei pharchu a’i defnyddio.
-
Mae dysgu mwy nag un iaith yn ei gwneud hi’n haws dysgu trydydd iaith!
-
Mae’r gallu i siarad mwy nag un iaith o fantais mawr i chi yn y gweithle! Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr dwyieithog!
-
Cefnogi eisteddfodau, cystadlaethau llenyddol, y papur bro a radio’r ysgol . Cyfle i ddisgyblion i gystadlu mewn amrywiol gystadlaethau lleol a chenedlaethol.
Saesneg
Pam fod Saesneg yn bwysig?
-
Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o Shakespeare i Fywyd Cyfoes gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn y Saesneg.
-
Ein nod yw ceisio sicrhau mwynhad o astudio’r pwnc er mwyn magu hyder wrth gyfathrebu o ddydd i ddydd yn ein cymdeithas ar lefel uchel.
-
Mae angen uwch sgiliau iaith er mwyn cyfathrebu drwy’r we, mewn llythyrau a llawer mwy.
Mae cyflogwyr yn chwilio am weithwyr sydd a Saesneg safonol ganddynt!
Ieithoedd Modern
Pam fod Ieithoedd Tramor Modern yn bwysig?
-
Mae’r cwrs yn un sydd yn cynnwys ystod eang o bynciau, o siopa a bwyd i chwaraeon ac adloniant, gyda digon o gyfleoedd i ehangu ar eich sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu yn Ffrangeg.
-
Mae’r gallu i siarad ieithoedd ychwanegol yn gwneud i chi sefyll allan.
-
Gall dysgu iaith newydd gynyddu gallu eich ymennydd a gwella eich cof!
-
Mae dysgu iaith newydd yn gamp, a bydd gennych well opsiynnau ar gyfer y dyfodol.
-
Bydd cyfle i fynd ar deithiau i Ffrainc a phrofi bywyd (a bwyd!!!) Ffrengig, a chyfarfod a phobl newydd.
-
Yn ogystal a Ffrangeg o fl7 i fl11, rydym hefyd yn cynnig Sbaeneg ym ml10 ac 11.