top of page

CYMORTH

Clinig - Cefnogaeth Cymorth Cyntaf.

Nyrs Ysgol - Yn bresennol i drafod anghenion meddygol. 

Adran Addysg Ychwanegol - Cymorth gydag ymdopi â bywyd ysgol ynghyd ag arweiniad emosiynol ac academaidd. Yn rhoi gofal arbennig i ddisgyblion yn dioddef o anableddau all fod yn rhwystro datblygiad personol.

Cyswllt Heddlu/Ysgol - Ar gael yn wythnosol i drafod materion disgyblaeth a threfn. 

Anogwyr Dysgu - Cymorth academaidd, emosiynol a galwedigaethol. Yn glust i wrando ac yn ddolen gyswllt rhwng disgybl, cartref ac ysgol.

Swyddog Llês - Ar gael i gynorthwyo rhieni/gwarcheidwad i oresgyn rhwystrau sy`n deillio o salwch neu ddiffyg arall yn y cartref. Yn canolbwyntio ar bresenoldeb ond hefyd yn ddolen gyswllt bwysig gyda`r Awdurdod

Cymorthyddion - Cymorth academaidd, cymdeithasol ac emosiynol.

Dysgu Darllen - Cymorth byr dymor gyda `bydis` Bl 10 a 12 i hybu sgiliau darllen. Mae hefyd arbenigwyr profiadol yn rhoi sylw manylach i ddiffygion llythrennedd a rhifedd i ddisgyblion ar draws yr ysgol.

Cwnselydd - Ar gael i gynnig cymorth arbenigol i ddigyblion yn dioddef o salwch meddwl. Mae`r Cwnselydd yn ddolen gyswllt rhwng yr ysgol a CAMHS ynghyd ag asiantaethau eraill.

Gofalwyr Amser Cinio - Yn cynnig cymorth i ddisgyblion ar ierdydd yr ysgol ac ar y coridorau.

​

Hwb- Ardal dawel i gael munud i feddwl neu baratoi ar gyfer dychwelyd i ddosbarth os wedi bod oddi yma am gyfnodau maith. Yn lle diogel i fwrw bol.

Ystafell Ymarfer - Ardal bwrpasol i berfformio gydag athrawon arbenigol. Cynhelir dosbarthiadau meistr yno ynghyd â chymorth gyda gwersi canu neu offerynol.

bottom of page