Lles
Ystafelloedd Lles
Ystafell Fyfyrio – Yst.6-2
PWRPAS: Dyma ystafell wedi ei leoli yn yr Hwb Cynhwysiad sy’n le tawel i ddisgyblion CA3 a 4 gael mynediad yno os ydynt yn ffeindio adegau o’r diwrnod yn heriol. Mae’r ystafell hon yn le diogel ar gyfer disgyblion sydd yn ei chael hi’n anodd bod yn rhan o wers arferol, cymuned yr Ysgol yn gyffredinol neu mewn sefyllfa o argyfwng, er mwyn eu cefnogi a’u hannog i well eu agwedd at ddysgu, eu ymddygiad a’u gallu i ddysgu. Yma bydd aelodau o staff hyffroddedig yn gweithio gyda'r dysgwyr i adlewyrchu a myfyrio ar y materion dan sylw ac yn rhoi cyfle iddynt fynegi eu hunain yn bwyllog cyn cyfeirio'r achos ymlaen at aelod o'r staff lles.
EFFAITH: Lleihau cyfeiriadau a gwella ymgysylltiad disgyblion â amgylchedd yr Ysgol. Bydd disgyblion yn cael y cyfle i fyfyrio a mynegi unrhyw deimladau ac emosiynau negyddol. Y gobaith yw y gall pob disgybl ail ymuno âg amgylchedd yr Ysgol mor fuan â phosib pan wedi dod a’r emosiynau dan reolaeth lle gallant ail gydio yn eu dysgu.
Ystafell Annog – CA3 Yst.6-1
PWRPAS: Cynnig ymyrraeth tymor byr gyda’r ffocws ar gefnogi disgyblion sydd gydag anhawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol (BESD) mewn ffordd gynhwysol. Mae’r ystafell yn ardal ddiogel sy’n helpu disgyblion I ymdopi â gofynion Ysgol uwchradd neu achosion o drawma sydyn neu cyfnod o drosglwyddo o Ysgol gynradd I’r uwchradd. Tra yn y grwp anogaeth, mae’r disgyblion yn parhau I fod yn rhan o’u grwpiau dosbarth eu hunain ac yn dychwelyd yn llawn amser. Mae’r cwricwlwm yn yr ystafell annog yn hyblyg sy’n cynnwys gweithgareddau celf a chrefft, cefnogaeth llythrennedd a rhifedd a sesiynau ELSA, Therapi Lego, Seasons for Growth etc.
Yr Hafan Hybu – Cymunedol
PWRPAS: Dyma ardal fugeiliol, aml bwrpas yr Ysgol ar gyfer disgyblion, gweithwyr allweddol ac ymwelwyr. Yma bydd disgyblion yn derbyn cefnogaeth gan amrywiaeth o asiantaethau allannol a mewnol mewn modd diogel, cynhaliol a chyfforddus. Gall y disgyblion ddod yma I drafod unrhyw fater neu rannu unrhyw bryder gyda staff profiadol a chefnogol. Bydd ymyrraethau a chyfarfodydd gyda rhieni yn cael eu trafod mewn awyrgylch gyfrinachol a gofalgar.
Darpariaeth:
​
Cefnogaeth 1:1 lles
Gwasaethau Ieuentid
Cyfarfodydd Swyddog Lles
Gwasnaethau Cymdeithasol
Gofalwyr Ifanc
Cwnselydd Ysgol
Therapi Celf
Cyfarfodydd Rhieni
Hybiau cefnogi disgyblion
Ystafell Dawel
Materion Medygol/ Nyrs Ysgol
Ardal Ddysgu – CA3 Yst.6-3
PWRPAS: Mae’r disgyblion sydd yn mynychu’r Ardal Ddysgu naill a’i ar Gynllun Datblygu Unigol yr Awdurdod neu Ysgol ac maen’t yn cael eu monitro’n agos gan roi adborth yn yr adolygiadau blynyddol.
Mae’r pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a sgiliau craidd – trefnu gwaith, dal fyny neu adolygu mewn ffordd gynhaliol a gofalgar.
Darpariaeth:
Ymyrraeth English Diagnostics
Sesiynau Darllen boreol
Sesiynau Llythrennedd un i un
Gwaith Grwp bychain
Ymyrraeth Rhifedd – TT Rock Stars
A mwy......
Hwb CA4 Yst. 6-5
PWRPAS: Darparu ardal ddiogel ar gyfer disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwangeol tu allan I ystafell ddosbarth arferol. Mae’r Hwb CA4 yn cynnig ardal ddiogel, cyfforddus, crosawgar a chynhaliol ar gyfer disgybllion sydd yn ei chael hi’n anodd ymdopi mewn gwersi prif lif. Bydd llawer o’r disyblion yn dilyn amrywiaeth o gyrsiau amgen gan ddilyn amserlen hyblyg. Bydd rhai disgwyliadau yn yr Hwb yn wahanol I weddill yr Ysgol. Mae rhai disgyblion sydd yn yr Hwb yn parhau I fod yn perthyn I gymuned yr Ysgol gyda’r rhan helaeth yn ymwelwyr cyson. Lle mae disgyblion sydd a mynediad llawn amser I'r Hwb, ni fyddant yn dilyn yr un amserlen a threfn a gweddill yr ysgol. Bydd amseroedd egwyl a chinio ar wahan yma.
Darpariaeth Amgen:
​
Sesiynau 1:1
Ymyrraeth Craidd
Addasiadau Rhesymol
Cyrsiau Agored Cymru
Portal
Btec Work Skills
Profiad Gwaith Estynedig
LIBF Mathemateg
Dosbarth Dulas
PWRPAS: Deallwn yn iawn bod y cyfnod trosglwyddo hwn yn gam mawr iawn yn natblygiad academaidd eich plentyn ac o ganlyniad, rydym wedi adnabod yr angen i sefydlu grwp dysgu ychwangeol ym Ml.7 ac 8 ar gyfer Medi er mwyn cefnogi rhai disgyblion allai brofi newidiadau yn anodd. Mae Dulas wedi ei leoli mewn ystafell ddosbarth yn Hwb yr ysgol ( grisiau 6) ac yn cael eu dysgu gan athro profiadol ym maes ADY. Yn ogystal, bydd gan ddisgyblion dosbarth Dulas fynediad i’r tîm o Gymorthyddion dosbarth sy’n gweithio o’r Hwb ac yn darparu cefnogaeth wedi ei wahaniaethu ar draws y cwricwlwm yn ogystal âg ymyrraethau wedi ei dargedu mewn Llythrennedd, Rhifedd a Lles. Mae’r Hwb yn ardal gynhaliol, groesawgar a chefnogol gyda’r ffocws ar integreiddio disgyblion yn raddol o fewn yr ysgol.