Gwerthoedd
Mae’r gwerthoedd hyn yn hanfodol i’n cymuned ddysgu os am gyflawni ein gweledigaeth.
Parchus
Mae pawb yn yr ysgol yn unigryw- yn ddysgwyr a theuluoedd, yn staff a rhanddeiliaid. Rydym yn onest ac agored wrth ein gwaith a pharchwn farn a theimladau pawb
Uchelgeisiol a Hyderus
Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol yn ddysgwr a staff i fod yn hyderus a balch o’n hunain, i groesawu her ac i ddyfalbarhau i gyrraedd ein nod
Parod
Disgwylir i’n holl randdeiliaid sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn yr hinsawdd orau phosib i lwyddo ynddi, ac bod ein disgyblion yn barod I ffynnu o fewn yr hinsawdd honno.
Creadigol
Rydym yn cefnogi ein gilydd yn yr ysgol, yn ddysgwyr a staff, i fentro’n hyderus, i feddwl yn greadigol a thorri tir newydd ac i ddysgu o’n llwyddiannau a’n methiannau.
Cyfeillgar a Mwynhad
Mae ethos pob dosbarth a phrofiadau dysgu yn ysbrydoli ein dysgwyr. Rydym yn sicrhau bod dysgwyr yn mwynhau profiadau a datblygu cymhelliant wrth ddysgu .
Brwdfrydedd
Byddwn yn ymdrechu i greu profiadau a fydd yn arwain at ddisgyblion brwdfrydig yn ceisio bod yn llwyddiannus. Yn ei dro, creu pobl ifanc chwilfrydig a llwyddiannus.
Cefnogi a Cydweithio
O fewn ein dosbarthiadau, ein hysgol ac ar draws ein clwstwr o ysgolion, rydym yn cydweithio ac yn cefnogi ein gilydd i ddatblygu a dysgu’n barhaus.
Cymreictod
Byddwn oll yn cofleidio ac yn dathlu ein diwylliant a’n hiaith, gan ddarparu profiadau i ddatblygu pobl ifanc sy’n falch o’u treftadaeth.