ADY
Yma yn Ysgol Syr Thomas Jones credwn y dylai pob plentyn fod â’r hawl i dderbyn addysg eang a chytbwys sy’n berthnasol ac wedi’i wahaniaethu, a sy’n amlwg yn arddangos datblygiad a chydlyniad. Rydym yn gwerthfawrogi pob plentyn a’u hanghenion. Credwn mai’r modd mwyaf llwyddiannus o uchafu potensial pob plentyn yw drwy bartneriaeth lwyddiannus rhwng staff, rhieni, llywodraethwyr ac asiantaethau cefnogi.
Mae darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn fater ysgol gyfan. Yn ganolog i waith pob dosbarth mae cylch diddiwedd o gynllunio, addysgu asesu a gwerthuso sy’n ystyried ystod eang o alluoedd, doniau a diddordebau’r disgyblion. Bydd y mwyafrif o’r disgyblion yn dysgu ac yn datblygu o fewn y trefniadau hyn. Serch hynny, ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol fe all fod yn angenrheidiol i gynnig gwell ddarpariaeth sy’n datblygu eu medrau dysgu.
Mae'r gefnogaeth rydym yn ei gynnig yn amrywio o blentyn i blentyn a ceisiwn rhoi y plentyn yn ganolog i unrhyw benderfyniad ynglyn a'r ffordd orau i'w cefnogi. Gall hyn gynnwys, cefnogaeth yn y gwersi, ymyrraeth llythrennedd neu rhifedd, Talkabout, mentora neu cefnogaeth amser egwyl/ cinio.